News: In Memoriam: Mair Williams

Published 4th April 2025

Cawsom yn ddiweddar y newyddion trist bod Mair Williams wedi marw. Roedd Mair yn aelod allweddol o’n grŵp Sgwrs Cymraeg .


Atebodd Mair i e-bost yn gofyn a oedd unrhyw un â diddordeb i ddechrau’r fath grŵp ddwy flynedd yn ôl. ‘Roedd yn benderfynol byddai’r grŵp yn cwrdd bob wythnos yn rheolaidd er mwyn rhoi cyfle i ymarfer a dysgu, ac ar y pryd dywedodd  ei bod hi am fod yn bresennol bob wythnos. Cadwodd Mair ei gair gan dreulio bob bore dydd Mawrth yn annog, yn cefnogi  ac  yn chwerthin gyda ni – y rhai ohonom sydd yn llai rhugl  yn y Gymraeg.

Roedd ei ymroddiad personol a’i chyfeillgarwch a’i phositifrwydd  yn hynod o werthfawr, rhoddodd ei hamser i ni’r dysgwyr i ddod yn fwy cyfarwydd â’r iaith a mwynhau sgwrsio yn y Gymraeg.

Fe fydd colled mawr ar ôl Mair. 

More News ...
Cardiff